Cerddorfa Ukulele

 Os am gysylltu â'r Gerddorfa Ukulele, gwnewch hynny drwy ...

Menter Caerdydd

Rhif ffôn: 029 20689888         ebost: post@mentercaerdydd.cymru

Facebook
Twitter

Croeso i wefan y Gerddorfa Ukulele

Sefydlwyd y Gerddorfa Ukulele yn 2013 dan arweiniad Mei Gwynedd a thrwy drefniant Menter Caerdydd. Mae'r nifer o aelodau wedi cynyddu'n flynyddol ac mae'r Gerddorfa yn mynd o nerth i nerth. Maent wedi perfformio mewn nifer o gigs lleol, yn yr Eisteddfod Genedlaethol, yng Ngŵyl Ukulele Caerdydd ac yng Ngŵyl Tafwyl. Yn ystod 2016 bu'r Gerddorfa yn recordio CD o ganeuon poblogaidd. Gweler y dudalen 'Siop' am fanylion pellach. 

https://www.youtube.com/channel/UCGkvc6DSuQdTfT59CkcVKmg
https://sites.google.com/site/cerddorfaukulele/siop

Cliciwch ar bennawd yr eitem o newyddion (isod) i'w agor  ....

Sesiynau Tymor yr Haf y Gerddorfa Ukulele yn dechrau ar Nos Fercher, Ebrill 24ain, 2024.

Bydd sesiynau Tymor yr Haf ar gyfer y Gerddorfa Ukulele yn dechrau ar Nos Fercher, Ebrill 24ain, 2024.  Cynhelir y sesiynau, fel arfer, yn y Chapter (CF5 1QE) o 7 o'r gloch yr hwyr hyd at 9:00 o'r gloch, dan arweiniad Mei Gwynedd. Mae'r sesiynau'n addas i chwaraewyr o bob safon - croeso mawr i chwaraewyr newydd. 

£80 am ddeg sesiwn (wythnosol) yw'r gost. 

Ewch i wefan Menter Caerdydd (https://mentercaerdydd.cymru) i gofrestru neu i gael manylion pellach.
<Cliciwch yma> i fynd yn uniongyrchol at y dudalen berthnasol ar wefan Menter Caerdydd.